Lleoliad:
O bell drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Mawrth 2022
Amser:
09.31 -
12.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12643
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Mike Hedges AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Huw Owen, Alzheimer’s Society Cymru Angela Davies, Gofalwr di-dâl Dee Montague, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru Deborah Shaffer, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru Gemma Roberts, Sefydliad Prydeinig y Galon |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o Gymdeithas Alzheimer Cymru a gofalwr di-dâl â phrofiad o oedi cyn rhyddhau o'r ysbyty.
3 Iechyd menywod a merched: sesiwn dystiolaeth gyda Chlymblaid Iechyd Menywod Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Glymblaid Iechyd Menywod Cymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
4.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4.3 Ymateb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
4.3 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4.4 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ac eithrio embryonau a gametau)
4.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.5 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ac eithrio embryonau a gametau)
4.3 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4.6 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles at y Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â maeth
4.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.7 Llythyr dilynol gan y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
4.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.8 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd ynghylch canfyddiadau ei waith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar ei flaenoriaethau yn y Chweched Senedd
4.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.9 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 2 a Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal
4.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.10Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weithredwyr Byrddau Iechyd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
4.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.11Ymateb gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i'r Cadeirydd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
4.11 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
4.12Llythyr dilynol gan Gofal a Thrwsio ynghylch cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Chwefror 2022
4.12 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.13Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Bil Optometreg
4.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.14Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd ynghylch defnydd o'r term BAME
4.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.15Ymateb Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch defnydd o'r term BAME
4.15 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
6 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nododd feysydd i’w trafod ar gyfer y sesiwn tystiolaeth lafar gyda’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod nesaf ar 24 Mawrth 2022.
7 Iechyd menywod a merched: trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
8 Fframweithiau cyffredin: y dystiolaeth
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframweithiau Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd; Diogelwch ac Ansawdd Gwaed; ac Organau a Meinweoedd, yn amodol ar fân newidiadau y cytunir arnynt drwy e-bost.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ofyn am ragor o wybodaeth am y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Safonau Cyfansoddiadol a Labelu Bwyd.